top of page

Anthony Ynohtna

  • Vimeo
  • Instagram
  • Facebook

Gwaith ar bapur | Works on paper


Datblygwyd y dechneg ‘Awtomatiaeth Swrrealaidd’ neu ‘Lluniadu Awtomatig’ yn ystod mudiad Swrrealaidd, a ddechreuodd yn y 1920au cynnar. Cafodd rheolaeth ei diystyru, gan ganiatau’n rhydd i’r gwaith llaw a gwneud marciau ‘fynegi’r isymwybodol’ heb ystyried ansawdd. Gan gymryd rhan yn yr ymarfer o ‘Llif’, mae’r dull seicolegol o ymgolli i arferion o’r fath yn caniatau rhyddid mynegiant llwyr yn ogystal ag ymgysylltu a meddwl isymwybodol ac ymddygiadau eraill. 


The technique, ‘Surrealist Automatism’ or ‘Automatic Drawing’ was developed during the Surrealist movement, originating in the early 1920s. Control was disregarded, freely allowing the hand and mark making to ‘express the subconscious’ without consideration of quality. Engaging in the practice of ‘Flow’, The psychological approach of fully immersing into such practices allow total freedom of expression as well as engaging subconscious thought and other behaviours. 

Luna : Breuddwyd | Luna : Dream

Mae lluniadau Ynohtna'n archwilio’r meddwl isymwybodol, gan dynnu’n awtomatig ar emosiwn a chof yn ogystal a’r tirweddau tameidiog a haniaethol a grewyd yn eich dychymyg. 

Ynohtna's drawings explore the subconscious mind, automatically drawing upon emotion and memory as well as the fragmented and abstract landscapes created in one’s imagination.

Wydehr

Mae’r astudiaethau hyn yn archwilio cyferbyniad, tonyddiaeth a dyfnder trwy feysydd geometrig crai syml, tra’n caniatáu i’r arfer o ‘lif’ ragori ar agweddau technegol lluniadu. Mae lluniadau 'Wydehr' Ynohtna yn annog mynegiant isymwybod yn ogystal â hunanfyfyrio i ddod i gasgliadau unigol yn y gweithiau.

These studies explore contrast, tonality and depth through minimal crude geometric fields, while allowing the practice of ‘flow’ to exceed the technical aspects of drawing. Ynohtna’s, 'Wydehr' drawings encourage subconscious expression as well as self-reflection to draw individual conclusions in the works.

"Jyst iawn i fi wneudt 'i rwan"


Ymdrinnir â gweithiau ysgrifen Ynohtna mewn ffordd fwy cerfluniol ac esthetig yn hytrach na dulliau traddodiadol i'r fformat ysgrifenedig. Mae’r rhain wedi’u bwriadu i gynulleidfaoedd ymgysylltu â’r geiriau yn bennaf mewn maenor gweledol, ac yn poeni llai â gramadeg a sillafu. O bryd i'w gilydd, mae'n defnyddio slang neu ffugio geiriau a threigladau sy'n glywadwy yn hytrach na'r rhai sy'n adnabyddadwy a chywir. Mae’r gweithiau ysgrifen hyn yn aml yn adlewyrchiadau a chyffesiadau o drawma profiadol, ac ymgais Ynohtna i ddeall ac ymdrin ag emosiynau a chof mewnol. 


Ynohtna's text works are approached in a more sculptural and aesthetic way rather than traditional methods to the written format. These are intended for audiences to engage with the words primarily in a visual manor, and is less concerned with grammar and spelling. On occasion using slang or fabricating words and mutations that are audible in preference to the recognisable and accurate. These text works are often reflections and confessions of experienced trauma, and Ynohtna’s attempt to understand and deal with inner emotions and memory.

Anniffyg: mae'n dechrau i gyd eto |
Makellos: wieder geht's von vorne los

Wedi’i ddylanwadu gan rai o adeiladau mwyaf dadleuol Gogledd Cymru; boed yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol, yn wleidyddol neu'n amgylcheddol. Roedd pob lleoliad ar un adeg neu'i gilydd yn bwysig iawn, ond eto'n ysgogi pryderon neu feirniadaeth sylweddol. Trwy ffotogyfosodiadau a'r ysbrydoliaeth a'r cynrychioliad a geir mewn deunyddiau adeiladu; megis concrit, asbestos a haearn. Trwy uno pob delwedd bensaernïol er mwyn creu delwedd newydd, mae ‘Makellos: wieder geht’s von vorne los’ yn mabwysiadu’r ffenomen o “Effaith Mandela” sef math o gof ffug lle mae grwpiau o unigolion yn cofio’r un peth yn anghywir. Yn yr achos hwn, ail-ddychmygu'r lleoliadau dadleuol di-nod hyn yn ogystal ag ail-feddwl eu hanes cythryblus; er mwyn dechrau eto.

Influenced by some of North Wales’ most controversial buildings; be it culturally, socially, politically or environmentally charged. Each location at one time or other being of great importance, yet fuelling significant concerns or criticism. Through photomontage and the inspiration and representation found in building materials; such as concrete, asbestos and iron. By merging each architectural image in order to create a new, ‘Makellos: wieder geht’s von vorne los’ adopts the phenomenon of “The Mandela Effect” a type of false memory where groups of individuals incorrectly remembers the same thing. In this case, re-imagining these unremarkable controversial locations as well as re-thinking their troubled histories; in order to start again.

bottom of page